Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:01 - 09:38 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Joyce Watson Elin Jones |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r Pwyllgor. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
2. Deisebau newydd
2.1P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn ceisio ei barn am y ddeiseb.
Cynigiodd Joyce Watson ei bod yn cwrdd â’r deisebwyr, yng nghyd-destun ymweliad â Meirionnydd yn ei rhanbarth hi, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor.
2.2P-04-476 Ailstrwythuro Amgueddfa Cymru
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at;
· Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac
· Amgueddfa Cymru yn ceisio eu barn am y ddeiseb
2.3P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd yn ceisio ei farn am y ddeiseb.
Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei fod wedi bod i gyfarfodydd ar bwnc y ddeiseb a drefnwyd gan Julie Morgan AC a’r deisebwr.
3. Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-03-150 Safonau Canser Cenedlaethol
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i rannu gwybodaeth y deisebwr â’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gan amlygu’r meysydd i’w gwella a nodwyd, a gofyn sut y mae’n bwriadu gweithredu ar y rhain.
3.2P-04-396 Sgiliau Triniaeth Cynnal Bywyd Brys i Blant Ysgol
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn holi a roddwyd unrhyw ystyriaeth i sefydlu hyfforddiant sgiliau triniaeth cynnal bywyd brys yn rhan graidd o Fagloriaeth Cymru.
3.3P-04-424 Cadw gwasanaethau yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i aros am lansiad yr ymgynghoriad ar wasanaethau gofal iechyd yn Ne Cymru, ac edrych eto ar y ddeiseb yn wyneb y cynigion ar gyfer Castell-nedd Port Talbot.
3.4P-04-450 Mae Angen Ysbyty Cwbl Weithredol ar y Barri a Bro Morgannwg
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i geisio barn y deisebwr am yr ohebiaeth gan Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
3.5P-04-361 Pas bws am ddim i fyfyrwyr o dan 25 oed sydd mewn addysg llawn amser
3.6P-04-371 Tocynnau teithio rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i bob plentyn hyd at 18 oed
3.7P-04-382 Costau teithio i fyfyrwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus
Ystyriodd y Pwyllgor y deisebau a chytuno i’w cau yn wyneb y gwaith blaenorol a wnaed ar y deisebau. Ni chafwyd ymateb gan y deisebwr.
3.8P-04-393 Grŵp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i;
· ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth yn holi am ragor o wybodaeth am sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu ailystyried ei hopsiynau ar hyd cefnffyrdd Cymru gan rannu’r ohebiaeth gan Gyngor Powys; a
· gofyn am frîff ymchwil ar gytundebau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i hwyluso gweithio tawsffiniol.
3.9P-04-409 Enwau Cymraeg i bob cefnffordd newydd yng Nghymru
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i gau’r ddeiseb yn wyneb yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, gan nodi nad yw’n bosibl ailenwi cefnffyrdd.
3.10 P-04-416 Gwasanaethau Rheilffyrdd Gogledd-De
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i ysgrifennu at Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth gan ofyn a fyddai modd i’r Pwyllgor gael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ar y mater.
3.11 P-04-438 Hygyrchedd wrth Siopa
Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb a chytuno i;
· ysgrifennu at St Davids Dewi Sant yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ei strategaeth arwyddion gan ei fod yn ymwneud â thoiledau Changing Places;
· ysgrifennu at Gyngor Caerdydd yn amlygu’r pryderon ynghylch rhwystrau ar lwybrau cyhoeddus, parcio a chroesfannau ffordd; a
· cheisio brîff cyfreithiol ar y ddeiseb, o ran cymhwysedd y Cynulliad.
3.12 P-04-343 Atal dinistrio amwynderau ar dir comin - Ynys Môn
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i ysgrifennu at Gyngor Ynys Môn yn ceisio ei farn am y ddeiseb ac yn holi pam na weithredwyd ar hyn ac a yw’n teimlo bod digon wedi ei wneud i ddiogelu tir comin.
3.13 P-04-465 Achub llaeth Cymru, a seilwaith a swyddi’r diwydiant
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i geisio barn y deisebwr am ohebiaeth y Gweinidog.
3.14 P-04-427 Cyfraith newydd ynghylch y Gymraeg
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i gau’r ddeiseb yn wyneb yr ymatebion gan y Gweinidog a Chomisiynydd y Gymraeg sy’n awgrymu nad oes deddfwriaeth newydd ar y ffordd.
3.15 P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion
Ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion i’r gwaith ymgynghori a wnaed ar y ddeiseb a chytuno i gael tystiolaeth lafar.
3.16 P-04-467 Arholiadau ym mis Ionawr
Ystyriodd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytuno i;
· rannu datganiad y Gweinidog gyda’r deisebwyr; ac
· ysgrifennu at y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gofyn a fyddai modd i’r Pwyllgor gael gwybod pan fydd penderfyniad wedi ei wneud ar asesiadau mis Ionawr.
4. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Derbyniwyd y cynnig.
5. Trafod y Flaenraglen Waith
Ystyriodd yr Aelodau’r flaenraglen waith.